This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

Ar 20fed Ionawr 2021, cyflwynodd Simon Murphy a Joan Roberts seminar ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) mewn digwyddiad ar-lein a drefnwyd gan Strategaeth Genedlaethol Ymchwil ac Ymholiad Addysgol Llywodraeth Cymru (NSERE). Dyma ddiweddariad ar hynny gan Joan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SHRN.

Roedd Simon a minnau wrth ein bodd yn cael cais i gyflwyno’r seminar hon fel rhan o raglen a drefnwyd gan Strategaeth Genedlaethol Ymchwil ac Ymholiad Addysgol Llywodraeth Cymru (NSERE). Nod NSERE yw sicrhau bod ymchwil, ymholi a thystiolaeth yn chwarae rhan ystyrlon yn natblygiad ymarfer ym mhob agwedd ar y system addysg. Mae’r seminarau wedi’u datblygu i gefnogi meithrin gallu a rhwydweithio ac maent yn agored i ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi.
Teitl ein cyflwyniad oedd: Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion: cefnogi ymchwil, polisi ac ymarfer yng nghyswllt iechyd a lles pobl ifanc. Buom yn siarad am sut mae SHRN yn ceisio gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru trwy wneud y canlynol:
Darparu data iechyd a lles cadarn i ysgolion a rhanddeiliaid cenedlaethol / rhanbarthol;
Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil newydd ar y ffordd orau i wella iechyd a lles pobl ifanc yn yr ysgol;
Helpu ysgolion, a’r rhai sy’n cefnogi ysgolion, i ddeall tystiolaeth ymchwil iechyd a sut gellir ei defnyddio mewn ysgolion.
Aethom ymlaen i archwilio sut mae pob un o’r elfennau hyn yn cefnogi datblygiadau cyffrous yn system addysg Cymru gan gynnwys Cwricwlwm Cymru; Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru; yr Ymagwedd Genedlaethol at Ddysgu Proffesiynol ac Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.
Cafodd y cyflwyniad dderbyniad da ac roeddem hefyd yn falch iawn o glywed gan ysgolion Rhwydwaith a rhanddeiliaid eraill am y gwerth y maent yn ei roi ar ein gwaith. Roedd hefyd yn fodd i gyflwyno SHRN i gynulleidfa newydd ac o ganlyniad rydym yn cwrdd ag ymarferwyr o wahanol leoliadau addysgol. Mae hyn wedi arwain at wahoddiad i gyfrannu at ddigwyddiad Mewnwelediad Polisi sy’n gysylltiedig ag Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.
Cysylltwch â shrn@cardiff.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.